Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi cyhoeddi ei fod yn cynnal ymchwiliad newydd i gasglu trethi datganoledig yng Nghymru.
O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd angen i Gymru gael system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd sy’n cael eu cyflwyno yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, bydd Trethi Trafodiad Tir a Threth Tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru, ond mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod unrhyw system casglu trethi’n briodol ar gyfer unrhyw ddatganoli yn y dyfodol.
Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y sefydliadau mwyaf effeithlon i gasglu trethi datganoledig yn y tymor byr a’r hirdymor; a’r cydbwysedd rhwng yr angen am sefydlogrwydd a chyfleoedd i ddatblygu trethi sydd wedi’u teilwra ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Bydd y Pwyllgor yn gofyn am sylwadau ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol am gasglu trethi yng Nghymru.
“Rydym yn gwahodd pobl Cymru i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn gan ein bod hefyd yn awyddus i glywed sut mae pobl yn meddwl y gall y trethi gael eu casglu yn y fath fodd bod safonau gwasanaeth yn parhau yn gyson.”
Mae’r Cynulliad hefyd yn croesawu ymatebion i’r ymchwiliad gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.