Mae ymgeisydd etholiadol Plaid Cymru, Harri Roberts wedi galw ar BBC Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i gau stiwdio byw yn Abertawe.

Daeth cadarnhad yr wythnos hon na fyddai BBC Cymru yn parhau i ddarlledu’n fyw o’r stiwdio ar Heol Alexandra oedd unwaith yn un o gartrefi gwasanaeth de-orllewin Radio Cymru ac i nifer o ddarllediadau’r bardd Dylan Thomas.

Fe fydd un stiwdio fach yn parhau i gysylltu gwesteion â phrif stiwdios yng Nghaerdydd a Bangor.

Ond mae’r BBC wedi gwadu eu bod nhw’n is-raddio’r cyfleuster.

Ar wefan Gorllewin Abertawe Plaid Cymru, dywedodd Harri Roberts: “Fe ddylai’r BBC noddi mwy nid llai o raglenni o’r tu allan i Gaerdydd a Bangor – ac mae’r cyfleusterau hyn yn gallu gwneud hynny’n barod.

“Mae hawl gan ail ddinas Cymru i stiwdio radio gyda’r gallu i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer Radio Wales a Radio Cymru ynghyd â chynnal cyfweliadau byw a’u recordio.

“Rwyf fi’n bersonol yn gwerthfawrogi cael fy nghyfweld heb orfod teithio milltiroedd lawer, a does dim modd i bob cyfweliad gael ei drefnu ar gornel y stryd nac mewn swyddfa na thŷ annedd.

“Rwy’n galw ar Fwrdd BBC Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad, ac addo gwneud mwy o raglenni yn Abertawe – rhywbeth fydd yn lleihau’r pwysau a’r costau ar Gaerdydd.”