Nigel Roach (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dyn sydd wedi’i gael yn euog o geisio llofruddio ei bartner, wedi cael ei ddedfrydu i oes yng ngharchar. Bydd yn treulio beth bynnag wyth mlynedd a hanner dan glo.

Cafodd yr heddlu eu galw i gartre’ Christine Lewis yng Nghaerdydd wedi i Nigel Roach orfodi ei ffordd i mewn, cymryd cyllyll o’r gegin, a cheisio ei lladd.

Roedd Nigel Roach wedi meddwi pan aeth i’r ty yn Llanrhymni, ond dywedodd y Barnwr ei fod wedi cynllwynio i ymosod ar ei bartner, ei fod yn ymosodiad ffiaidd, ac nad oedd Roach wedi dangos unrhyw edifeirwch wedi hynny.

Fe ddioddefodd Christine Lewis anafiadau i’w hysgwydd chwith, ei braich chwith, ei brest a’i dwylo yn yr ymosodiad.