Mae rhybudd y gallai lefelau o lygredd awyr fod yn anarferol o uchel mewn rhannau o Gymru heddiw, yn ôl arbenigwyr.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi rhybuddio y gall y llygredd effeithio pobl sy’n dioddef o asthma ac maen nhw hefyd yn cynghori’r henoed i fod yn wyliadwrus.

Mae’r llygredd yn effeithio ar rannau helaeth o’r DU ac  yn gyfuniad o lygredd o wledydd Prydain, a llygredd sy’n chwythu o gyfeiriad Ewrop a Rwsia.

Y llefydd sydd wedi gweld y lefelau uchaf o lygredd awyr yng Nghymru yw Caerdydd, Casnewydd a Chas-gwent.

Asthma

Mae’r cynnydd mewn lefelau nwyon llygredig, fel nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid yn golygu fod llai o ocsigen yn cael ei anadlu, yn ôl yr Athro Liz Bentley, Prif Weithredwr y Gymdeithas Feterolegol Frenhinol.

Dywedodd Kay Boycott, Prif Weithredwr Asthma UK: “Mae dwy ran o dair o bobl sy’n dioddef o asthma yn canfod fod llygredd awyr yn gwneud y cyflwr yn waeth, gan gynyddu’r risg o gael pwl difrifol.

“Pan mae llygredd awyr yn uchel, mae’n allweddol fod pobl gyda chyflwr anadlu fel asthma, yn edrych ar y rhagolygon, ac yn cario cymorthyddion anadlu bob amser.”

Eclips

Dywedodd llefarydd ar Adran yr Amgylchedd: “Mae gwyntoedd llygredig o’r cyfandir wedi cyfuno gyda llygredd lleol, a thywydd llonydd iawn, wedi achosi mesuriadau uchel o lygredd ledled Prydain. Bydd disgwyl i’r lefelau ostwng  erbyn dydd Gwener.”

Dywedodd y llefarydd fod gwasgedd uchel yn achosi i’r llygredd aros yn ei unfan.

Er bod disgwyl i’r llygredd wella erbyn yfory, mae’r tarth yn debyg o rwystro rhai pobl rhag gweld yr eclips, meddai.

“Bydd hi’n gymharol gymylog fory, ond mae yna bosibilrwydd y bydd ysbeidiau heulog, ond mae’n anodd dweud ym mhle fydd hyn. Ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn debyg o weld yr eclips.”