Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru (ERS Cymru) heddiw wedi rhybuddio y gallai cynnal dau etholiad ar yr un diwrnod arwain at anhrefn yn y blwch pleidleisio a “thaflu” canlyniad etholiad nesaf y Cynulliad.

Mae etholiad nesaf y Cynulliad i fod i gael ei gynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, ond mae’r ffordd mae pobl yn pleidleisio am Aelodau Cynulliad yn wahanol i’r ffordd maen nhw’n ethol Comisiynwyr.

Os bydd y gwrthdaro mynd yn ei flaen, gallai pleidleiswyr orfod delio â tri phapur pleidleisio ar wahân gan ddefnyddio tair system bleidleisio wahanol.

Yn ol ERS Cymru, fe allai’r dryswch arwain at gynnydd yn y papurau pleidleisio sy’n cael eu ddifetha.

Tystiolaeth o’r Alban

Mae ERS Cymru yn cyfeirio ar dystiolaeth o’r Alban, lle fu gwrthdaro tebyg yn 2007 a cafodd 85,644 pleidlais etholaethol ei wrthod, yn ogystal â 60,455 pleidlais ranbarthol.

Gyda llawer yn rhagweld etholiad Cynulliad agos, gallai unrhyw gynnydd mewn papurau pleidleisio a ddifethwyd newid y canlyniad mewn seddi ymylol fel Caerdydd Canolog neu Llanelli.

Gallai hynny, yn ei dro, effeithio ar bwy fyddai’n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.

Galw am ohirio

Mae ERS Cymru nawr wedi galw ar Lywodraeth y DU i ohirio’r etholiadau Comisiynydd yr Heddlu yng Nghymru am flwyddyn, gan gyfuno y bleidlais honno gydag etholiadau llywodraeth leol.

Er na fyddai’n ddelfrydol, mae ERS Cymru yn dadlau mai dyna’r dewis gorau gan osgoi’r costau ychwanegol o gynnal etholiadau heddlu ar wahân.

Dywedodd Steve Brooks, cyfarwyddwr ERS Cymru: “Bydd cyfuno etholiadau’r Cynulliad a’r heddlu yn drychinebus i ddemocratiaeth yng Nghymru. Byddai disgwyl pobl i ddelio â thri papur pleidleisio a thair ffordd wahanol o bleidleisio.

“Byddai hyn, yn anochel, yn arwain at ddryswch a byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd, sy’n golygu na fydd pleidleisiau rhai pobl yn cyfrif.

“Fodd bynnag, mae’n modd osgoi hyn. Gall Llywodraeth y DU oedi etholiadau heddlu gan ganiatáu i etholiadau nesaf y Cynulliad fynd yn ei flaen yn ddirwystr.”