Cafodd sgwadiau reiat eu galw i garchar Caerdydd saith gwaith yn 2014 yn ôl ffigyrau a ddatgelwyd gan blaid Lafur yn San Steffan heddiw.

Ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, cafodd y sgwadiau eu galw, ar gyfartaledd, dros bedair gwaith yr wythnos y llynedd ac mae Llafur yn honni fod sefyllfa carchardai wedi gwaethygu o dan y glymblaid.

Fe wnaeth y Grŵp Ymateb Tactegol Gwladol (NTRG) ddelio gyda 223 o ddigwyddiadau mewn carchardai yn 2014. Yn 2010, roedd y ffigwr yn 118 yn ôl ffigyrau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Yn 2013, cafodd y sgwadiau reiat eu galw 203 o alwadau, ac yn 2012 roedd y ffigwr yn 129.

Dywedodd llefarydd Llafur dros gyfiawnder, Sadiq Khan, fod “argyfwng” mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.

Ystadegau

Datgelodd Sadiq Khan hefyd fod hunanladdiadau mewn carchardai yn y Deyrnas Unedig wedi codi 64% y llynedd.

Gofynnodd Carchar Nottingham am gefnogaeth gan y Grŵp Ymateb Tactegol Gwladol 15 o weithiau – mwy nag unrhyw carchar arall y llynedd.

Fis diwethaf, meddai adroddiad gan brif arolygydd carchardai, Nick Hardwick, bod lefel “uchel iawn” o drais ymhlith carcharorion yno.

Carchar Ranby, hefyd yn Swydd Nottingham, oedd yn ail ar y rhestr gyda 11 o alwadau.

Cafodd sgwadiau reiat eu galw i Garchar Lindholme yn Ne Swydd Efrog a Charchar Hewell yn Swydd Gaerwrangon wyth gwaith, ac Garchar Caerdydd saith gwaith.

Yn ei ymateb i Mr Khan, dywedodd y Gweinidog Carchardai Andrew Selous, bod Grwpiau Ymateb Tactegol Gwladol â sgiliau arbenigol i ymdrin â digwyddiadau difrifol.

Ychwanegodd eu bod hefyd yn cael eu galw’n aml fel “rhag-fesur”.