R Alun Evans
Heddiw, cyhoeddwyd mai’r darlledwr a gweinidog R Alun Evans fydd Llywydd yr Wyl, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad y bydd yn annerch cynulleidfa’r Pafiliwn o’r llwyfan yn ystod wythnos y Brifwyl sy’n cael ei gynnal ym Meifod rhwng 1 a 8 Awst.

Cafodd R Alun Edwards ei fagu yn Llanbrynmair gan dderbyn ei addysg yn Nyffryn Dyfi, cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Fe’i ordeiniwyd yn weinidog yn Seion Llandysul, cyn iddo droi at ddarlledu ac ymuno gydag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964.

Yn ystod gyrfa amrywiol gyda’r BBC, bu’n cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn ddyddiol, Heddiw, o 1969-1979, ac yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau’r Eisteddfod ac yn sylwebydd pêl droed cyntaf y gorfforaeth. Yn 1979, fe’i penodwyd yn Bennaeth Darlledu’r BBC ym Mangor.

Degawdau o wasanaeth

Ar ôl ymddeol yn 1996, bu’n astudio am radd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac enillodd ei radd PhD am ei waith ar ‘Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru’ yn 1999.

Mae’n ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol ers degawdau, yn gyntaf fel cystadleuydd yn yr adrannau cerdd dant a drama, cyn cyfnod hir fel arweinydd llwyfan o 1969 tan 1996.

Bu’n aelod o Gyngor yr Eisteddfod ers canol y saithdegau, ac yn Gadeirydd ar y corff hwnnw o 1999-2001, pan y’i etholwyd yn Lywydd y Llys o 2002-2005. Ef oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod, ac yn 2007, fe’i anrhydeddwyd yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ôl ymddeol o fyd darlledu, dychwelodd i’r weinidogaeth, a bu’n gwasanaethu gyda’r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod y Garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014. Ef yw Llywydd cyfredol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, mae’n briod â Rhiannon, yn dad i Rhys a Betsan Powys, ac mae ganddo bedwar o wyrion.