Fe fydd cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi newydd Caernarfon yn cael eu dangos i’r cyhoedd am y tro cynta’ heddiw.
Mewn tair arddangosfa yng Nghaernarfon, Bontnewydd a Chaeathro dros y tridiau nesa’, fe fydd cyfle i drigolion weld manylion y cynllun gwerth £65.5 miliwn yn ogystal â gweld modelau 3D o’r datblygiad.
Dewisiadau'r ffordd osgoi (Map Llywodraeth Cymru)
Roedd dadlau mawr wedi bod am union lwybr y ffordd a oedd, ar un adeg, am dorri trwy dir amaethyddol da yn ardal Bethel.
O ganlyniad i ymgyrchu lleol, y bwriad yw fod y ffordd osgoi newydd yn cysylltu â gwaelod ffordd osgoi’r Felinheli.
Fe fydd y ffordd osgoi tua 9.8km o hyd ac yn dechrau wrth gylchfan Y Goat, Llanwnda ac yn ymuno â’r A487 bresennol wrth gylchfan Plas Menai.
Cwmnïau Balfour Beatty a Jones Bros, Rhuthun fydd yn dylunio ac adeiladu’r ffordd ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau’r flwyddyn nesa’.
Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd yw lleihau amserau teithio a gostwng nifer damweiniau – mae’r daith ben bore a ddiwedd y prynhawn o amgylch Caernarfon wedi bod yn drafferthus iawn.
Arddangosfa
Dyma’r dyddiadau:
17 Mawrth, Gwesty’r Celt, Caernarfon – 10.00a –8.00pm
18 Mawrth, Hen Ysgol Bontnewydd – 10.00am–8.00pm
19 Mawrth, Canolfan y Capel, Caeathro – 10.00am-5.00pm