Mae dau berson wedi’u hachub o gerbyd yng Nghaerdydd, wedi i’r car fod mewn gwrthdrawiad ag arwydd ar ffordd yr A4232 heddiw.

Fe gafodd yr Ambiwlans Awyr ei galw i’r digwyddiad ar y ffordd ymadael yn Lecwydd toc wedi 1.30yp.

Fe fu dwy ambiwlans arferol, car ymateb cyflym, criwiau achub o dair gorsaf, ynghyd a meddyg yn rhan o’r ymateb i’r ddamwain.

Mae dau o bobol wedi cael eu cludo i Ysbyty’r Brifysgol yn y brifddinas.

Er bod ffordd yr A4232 wedi bod ar gau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn y ddamwain, mae hi bellach wedi ail-agor.