Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod tri o’u heddweision wedi’u diswyddo, wedi achos o gamymddwyn difrifol. Mae pedwerydd heddwas wedi derbyn rhybudd terfynol.

Fe ddaw’r diswyddiadau yn dilyn gwrandawiad a gafodd ei gynnal ym mis Chwefror y llynedd, yn dilyn damwain ffordd.

Roedd y cyhuddiadau’n erbyn yr heddweision yn canolbwyntio ar honiadau fod yr heddweision wedi ceisio helpu aelod o’r teulu i osgoi cael ei erlyn yn dilyn gwrthdrawiad.

“Mae gan bobol Gwent bob hawl i ddisgwyl i bob heddwas ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Mae ein staff yn gweithio’n galed ar ran y cyhoedd, ac mae’n siomedig pan mae gweithredoedd lleiafrif fel hyn yn tynnu oddi wrth y gwaith ardderchog y mae’r mwyafrif llethol yn ei gyflawni.”