Warren Gatland
Mae is-hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi amddiffyn Warren Gatland ar ôl i gyn-chwaraewr Iwerddon gyffelybu ymennydd prif hyfforddwr Cymru i dwb o farjarîn.

Mewn colofn yn yr Irish Independent yr wythnos hon fe ddywedodd Neil Francis fod gan Gatland “gapasiti meddyliol twb o Flora” a’i fod yn euog o “nepotistiaeth warthus” trwy ddewis cymaint o Gymry yn nhîm y Llewod yn 2013.

Fe aeth Francis ymlaen i feirniadu tactegau “un dimensiwn” hyfforddwr Cymru, gan daflu geiriau pigog tuag at rai o chwaraewyr Cymru hefyd gan gynnwys y “narky Scarlet” Liam Williams.

Ond yn ddigon rhyfedd, fe orffennodd y colofnydd trwy ddweud ei fod yn credu y byddai Cymru’n trechu Iwerddon pan fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd yn y Chwe Gwlad yfory.

‘Siomedig’

Mae gan Warren Gatland gryn dipyn o hanes gydag Iwerddon, ar ôl hyfforddi eu tîm cenedlaethol am gyfnod dros ddegawd yn ôl.

Ers cymryd yr awenau gyda Chymru mae wedi herio a chael ei herio gan y Gwyddelod fwy nag unwaith.

A dyw llawer o gefnogwyr rygbi Iwerddon dal heb faddau i Gatland am hepgor Brian O’Driscoll o’r tîm enillodd gêm dyngedfennol y Llewod yn erbyn Awstralia nôl yn 2013.

Ond fe ddywedodd Rob Howley ei fod yn “siomedig” fod rhai Gwyddelod yn parhau i ymosod ar Gatland.

“Mae’n rhaid i chi gael profiad o’r Llewod i ddeall y Llewod,” meddai Howley.

“Dw i ddim yn siŵr os oedd Neil Francis yn Lew.

“Y peth gwych am rygbi yw bod gan bawb eu barn eu hunain am sut ddylai’r gêm gael ei chwarae, ac mae personoliaethau o fewn y gêm.

“Pan mae’n mynd yn bersonol mae hynny’n siomedig. Mae’r gêm yn fwy na hynny. I weld rhywun yn derbyn beirniadaeth bersonol, rhywun sydd wedi ennill cyfres y Llewod, wedi ennill Campau Llawn a Phencampwriaethau Chwe Gwlad, mae hynny’n siomedig.

“Does dim angen sylwadau fel yna. Mae’n ymosodiad personol ac mae’n hollol annheg.”

To ar agor

Fe fydd y to ar agor yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gêm fory, wrth i Gymru geisio cadw’u gobeithion o gipio’r Chwe Gwlad yn fyw gyda buddugoliaeth dros y Gwyddelod.

Mae Iwerddon wedi ennill eu deg gêm ddiwethaf, a dim ond dwywaith (yn 2005 a 2011) ers 1983 y mae Cymru wedi trechu’r Gwyddelod yng Nghaerdydd.

Ond dyw Cymru heb golli pob un o’u gemau cartref mewn un ymgyrch Chwe Gwlad ers 2003 ac fe fydd Sam Warburton, fydd yn torri record wrth arwain y tîm fel capten am y 34ain tro, yn gobeithio parhau â’r rhediad hwnnw.