Disgyblion Ysgol Hirael, Bangor, mewn gwisg ffansi
Mae ysgolion a chwmnïau ledled Cymru yn rhan o ymgyrch elusennol Comic Relief i godi dros £1biliwn trwy gynnal diwrnod o weithgareddau a ffeiriau.

Cafodd yr elusen Brydeinig boblogaidd ei sefydlu 30 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi codi £960 miliwn.

Y gobaith ar Ddiwrnod Trwyn Coch 2015 – lle mae bobol o bob oed yn gwisgo dillad ffansi i’r gwaith, cynnal ffeiriau a thynnu hunlun – yw cyrraedd y targed o £1 biliwn.

Fe fydd yr arian yn mynd yn bennaf tuag at geisio gwella gofal iechyd ac addysg mewn cymunedau yn Affrica.

Bydd rhaglen Comic Relief yn cael ei darlledu’n fyw o Lundain am saith o’r gloch heno ar BBC1 a BBC2.