Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford
Daeth arbenigwyr yn y maes gofal iechyd ynghyd yn y Drenewydd heddiw i drafod dyfodol y gwasanaethau iechyd yn y Canolbarth.
Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford yn annerch cynhadledd Gofal Iechyd Gwledig Canolbarth Cymru.
Bu cyn brif swyddog meddygol Cymru, Dr Ruth Hall, a Jack Evershed, cyn gadeirydd y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, yn arwain y gynhadledd. Bu Jack Evershed hefyd yn ymgyrchu i gadw gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Cafodd Dr Hall a Jack Evershed eu penodi yn ddiweddar yn gyd-gadeiryddion Rhaglen Gydweithredol Iechyd y Canolbarth, a sefydlwyd i fwrw ymlaen ag argymhellion Astudiaeth Canolbarth Cymru.
‘Dadleuon brwd’
Dywedodd yr Athro Drakeford fod y gynhadledd wedi dangos fod teimladau cryf dros Ysbyty Bronglais.
“Mae dadleuon brwd wedi bod yn digwydd ynghylch dyfodol gofal iechyd yn y Canolbarth, ac mae llawer o bobl wedi bod yn dangos pa mor gryf y maen nhw’n teimlo am Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn arbennig.
“Sefydlais Astudiaeth annibynnol Canolbarth Cymru i ddadansoddi’r heriau a’r cyfleoedd o ran darparu gofal iechyd mewn rhanbarth sy’n wledig ac yn brin ei boblogaeth gan fwyaf, a rhoi argymhellion at y dyfodol.”
‘Cyfle i drafod’
Roedd y gynhadledd yn chwilio am yr enghreifftiau mwyaf llwyddiannus i ateb problemau gofal iechyd yn yr ardal, yn ôl Mark Drakeford,.
“Ffrwyth yr astudiaeth yw’r gynhadledd hon sydd wedi tynnu ynghyd y bobl sydd â rhan yn nyfodol eu gwasanaethau iechyd i dynnu sylw at yr enghreifftiau mwyaf llwyddiannus o atebion i broblemau gofal iechyd gwledig. Mae wedi bod yn gyfle i drafod y gwersi a allai fod yn berthnasol i’r Canolbarth.”
Roedd y siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys yr Athro Steven Berkshire a Dr Asa Bruce Wilson o Brifysgol Central Michigan, a fu’n trafod hyfforddiant a chynllunio ar gyfer gweithlu’r GIG yn y dyfodol.
Ychwanegodd yr Athro Drakeford: “Bydd atebion clinigol arloesol, sy’n cael eu cynllunio ar y cyd â phobl leol, yn helpu i wneud y Canolbarth yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal iechyd gwledig.
“Fodd bynnag, er mwyn gwireddu hyn, mae’n hanfodol bod y bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn yn cyfrannu at y ddadl ac yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yn y Canolbarth.”