Safle atomfa Wylfa Newydd, Ynys Môn
Fe fydd ymgyrchwyr gwrth-niwclear PAWB (Pobol yn erbyn Wylfa B) yn ymgynnull ar ochr Bont Menai’r bore yma i nodi bod pedair blynedd wedi mynd heibio ers trychineb niwclear Fukushima yn Japan.

Rhwng 8 a 9 o’r gloch, bydd yr ymgyrchwyr yn codi ymwybyddiaeth am beryglon ynni niwclear gan bwysleisio bod yr argyfwng yn parhau hyd heddiw.

Daw’r brotest wedi i gyn-Brif Weinidog Japan oedd mewn grym adeg trychineb Fukushima, Naoto Kan, ymweld ag Ynys Mon ar 26 Chwefror er mwyn gwrthwynebu cynllun i adeiladu atomfa Wylfa Newydd.

Bryd hynny, fe wnaeth arweinydd Cyngor Môn fynnu nad yw’r rhan fwyaf o gynghorwyr yr ynys yn cytuno â safbwynt Naoto Kan, ac y byddan nhw’n parhau i gefnogi atomfa newydd.

Trychineb

Dywed mudiad PAWB ei bod yn bwysig cofio am y 160,000 o bobol gafodd eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ardal Fukushima er mwyn ffoi rhag yr ymbelydredd.

Fe wnaeth tswnami anferth ger arfordir Japan achosi ffrwydrad yng ngorsaf niwclear Fukushima Daiichi yn 2011 ond mae gweithwyr sy’n peryglu eu hiechyd yn parhau ar safle’r trychineb niwclear hyd heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad: “Cefnoga PAWB alwad diweddar Naoto Kan ar lywodraeth Japan i beidio ag ailagor unrhyw orsafoedd niwclear yn y wlad honno, ac ar gorfforaeth Hitachi i beidio ag allforio’u technoleg niwclear i Ynys Mon.

“Yng ngeiriau Mr Kan, ‘Niwclear diogel yw dim niwclear. Nid yw’n werth mentro’.”