Sibrydion
Mae cerddorion ifanc wedi cael cyfle i fwynhau dosbarthiadau meistr gyda dau o sêr y Sîn Roc Gymraeg fel rhan o gynllun gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Menter Maldwyn.

Mae disgyblion pedair o ysgolion uwchradd yr ardal wedi cael cyfle i ddysgu am bob agwedd o’r byd cerddorol – o berfformio mewn band hyd at baratoi lleoliad i drefnu gig a ffilmio fideo – mewn gweithdai gydag arbenigwyr.

Penllanw’r prosiect yw bod y bobl ifanc yn trefnu a chynnal gig ym mhob ysgol, a bydd cyfle i’r bandiau sydd wedi cael eu hyfforddi yn perfformio yn yr un gig ag enillydd band gorau’r flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar yn ddiweddar, Candelas.

Mei Gwynedd o’r Sibrydion sy’n arwain y cynllun, gydag Osian Huw Williams o’r grŵp Candelas yn rhan o’r tîm hyfforddi hefyd.

‘Prosiect cyffrous’

Meddai Mei Gwynedd: “Mae’r ymateb gan yr ysgolion lleol wedi bod yn arbennig. Mae’n brosiect cyffrous iawn ac mae’n braf bod modd i ni weithio dros gyfnod gyda’r bobl ifanc er mwyn datblygu eu sgiliau.

“Gobeithio y byddan nhw wedyn yn teimlo’n ddigon hyderus i drefnu gigs eu hunain yn yr ardal yn y dyfodol.”

Yr ysgolion sy’n rhan o’r prosiect yw Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, Ysgol Uwchradd Llanidloes, Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Uwchradd Llanfyllin a bydd y daith hefyd yn ymweld ag Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Daw’r prosiect yn fuan wedi’r cyhoeddiad am lansio cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar ei newydd wedd, wrth i C2 Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru ddod ynghyd i annog bandiau a pherfformwyr ifanc Cymru i gystadlu.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 16 Mawrth, a chynhelir rowndiau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod Ebrill a Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, ar nos Fawrth 4 Awst.

Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, ewch i www.maesb.com.