Daniel Morgan
Mae cadeirydd panel sy’n ymchwilio i lofruddiaeth ditectif preifat o Gymru yn 1987 wedi galw ar unrhyw un sy’n credu y gallen nhw fod a gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Cafwyd hyd i Daniel Morgan o Dorfaen gyda bwyell yn ei ben ym maes parcio tafarn yn ne ddwyrain Llundain ar 10 Mawrth 1987.

Cafodd panel annibynnol ei sefydlu gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ym mis Mai 2013 ar ôl i nifer o ymchwiliadau – a oedd wedi costio tua £30 miliwn – fethu a dod i gasgliad ynglŷn â llofruddiaeth Daniel Morgan.

Mae Scotland Yard wedi cyfaddef bod llygredd o fewn yr heddlu wedi bod yn “ffactor” ym methiant yr ymchwiliad gwreiddiol.

Dywedodd cadeirydd y panel, y Farwnes O’Loan: “Wrth inni agosáu at nodi 28 mlynedd ers llofruddiaeth Daniel Morgan, hoffai’r panel glywed gan unrhyw un sy’n credu y gallen nhw fod a gwybodaeth sy’n berthnasol i waith y panel.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu’r panel drwy e-bostio contactus@dmip.gsi.gov.uk