Bydd undeb UNSAIN heddiw’n cyflwyno deiseb gyda miloedd o lofnodion i Gyngor Bro Morgannwg mewn ymgais i amddiffyn gwasanaethau llyfrgell yn y sir.

Mae gwasanaethau llyfrgell y sir o dan fygythiad o ganlyniad i doriadau i’w cyllideb. Mae cynigion y Cyngor yn cynnwys gostyngiad mewn oriau agor llyfrgelloedd, gostyngiad yn nifer y staff, a galw ar grwpiau cymunedol i redeg y gwasanaeth yn wirfoddol.

Ond mae UNSAIN yn credu y gallai’r mesurau arwain at  wasanaeth aneffeithiol, a fyddai’n niweidiol i gymunedau ar draws y Fro.

Meddai’r cyngor bod angen iddyn nhw gyflwyno’r newidiadau er mwyn gwneud arbedion o £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae’n rhagweld y bydd sefydlu llyfrgelloedd cymunedol yn arbed £187,000 i’r Cyngor tra bydd gostyngiad mewn oriau agor yn arbed £256,000.

‘Galw ar y cyngor i ailystyried’

Meddai Gillian Southby o UNSAIN: “Mae llyfrgelloedd yn llawer mwy na dim ond gwasanaeth benthyca llyfrau’r dyddiau hyn. Maent yn darparu mynediad i’r rhyngrwyd i lawer o bobl na fyddai’n cael mynediad i’r we fel arall, maent yn darparu cymorth addysgol ar draws pob oedran, ac mae llawer o lyfrgelloedd yn cynnig lle i grwpiau cymunedol lleol gynnal gweithgareddau.

“Mae UNSAIN yn galw ar y cyngor i wrando ar filoedd o bobl ar draws y Fro ac ailystyried eu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau llyfrgell, cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Stuart Egan: “Mae’r pwysau ariannol rydym ni’n ei wynebu ar hyn o bryd yn golygu na allwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un modd.

“Yn hytrach, rydym am weithio gyda phawb sy’n angerddol am lyfrgelloedd i ddatblygu ffyrdd newydd o’u rhedeg. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn credu y gallwn gynnal y lefel bresennol o ddarpariaeth yn y Fro.”