Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynyddu rôl y Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol wrth reoli yr amgylchedd yng Nghymru.

Mae rhan gyntaf o adolygiad yn edrych ar eu gwaith newydd gael ei chwblhau.

Wrth ymateb i rhan gyntaf yr adolygiad annibynnol, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Carl Sargeant: “Mae Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn werthfawr.

“Maen nhw’n asedau y dylwn eu mawrygu a’u diogelu a hefyd fanteisio arnyn nhw i daclo’r heriau amgylcheddol ac economaidd rydym yn eu hwynebu.”

Sawl agwedd

“Rwyf am iddyn nhw fod yn esiamplau i’r byd ar sut i fod yn gynaliadwy, yn dirweddau byw ag ynddynt gymunedau byrlymus a chadarn sy’n cynnig cyfleoedd mawr i hamddena yn yr awyr agored, gydag ecosystemau llewyrchus a bioamrywiaeth gyfoethog,” meddai Carl Sargeant.

Bu cam un o’r adolygiad annibynnol yn edrych ar eu pwrpas gyda phosiblrwydd o greu un dynodiad ar gyfer holl dirweddau dynodedig Cymru. Mae rhan gyntaf yr adolygiad bellach wedi’i chynnal a chynigiodd y Panel chwe argymhelliad.

“Pwrpas yr Adolygiad yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i gefnogi set gynhwysfawr o argymhellion a ddylai sicrhau bod gan ein tirweddau dynodedig y modd i wireddu eu potensial, wrth adeiladu ar eu bri a’u brand trwy’r byd.

“Wrth inni yng Nghymru ddatblygu ein ffordd ein hunain o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â chynllunio, rheoleiddio defnydd tir a rheoli adnoddau naturiol, mae’n hanfodol peidio ag esgeuluso’r parciau cenedlaethol a’r AHNE.

“Mae’n rhaid wrth eu diwygio i sicrhau eu bod yn ffynnu trwy barhau i’w hamddiffyn ond gan sicrhau hefyd bod pobl Cymru yn cael y gorau ohonyn nhw,” meddai Carl Sargeant.