Map Heddlu Toronto yn dangos achosion Prosiect Spade
Mae yna 11 o bobol o Gymru wedi cael eu herlyn am ddefnyddio lluniau o blant noeth ar y We mewn ymgyrch fawr gan heddlu yng Nghanada.

Y BBC sydd wedi casglu’r ffigurau trwy gais Rhyddid Gwybodaeth am Brosiect Spade Heddlu Toronto, sydd wedi arwain at gannoedd o achosion ar hyd a lled y byd.

Roedd nifer o’r achosion yn hysbys eisoes, gan gynnwys un Gareth Williams, dirprwy brifathro Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, a gafodd ei garcharu am ffilmio plant mewn tai bach.

Yn ôl y ffigurau diweddara’, mae 8 achos wedi bod yn ardal Heddlu De Cymru, dau yn ardal Heddlu Gogledd Cymru  ac un yn Nyfed-Powys.

Ymchwiliad Comisiwn Cwynion

Ond mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad i oedi gan Heddlu Gogledd Cymru tros y wybodaeth a gawson nhw.

Ar ôl derbyn gwybodaeth gan yr asiantaeth ganolog i warcod plant, CEOP, roedden nhw wedi dilyn 12 o achosion ond wedi methu â sylwi ar dri arall yn eu hardal.

Wrth gyhoeddi’r ymchwiliad ym mis Ionawr eleni, fe ddywedodd y Comisiynydd Cwynion yng Nghymru, Jan Williams, y bydden nhw’n holi beth oedd wedi digwydd, pwy oedd yn gyfrifol a beth oedd wedi’i wneud i sicrhau na fyddai’r un peth yn digwydd eto.

“Mae unrhyw fethiannau wrth ddelio gyda gwybodaeth am ddiogelu plant yn naturiol yn fater o bryder mawr i’r gymuned,” meddai ar y pryd.

Prosiect Spade

Roedd y prosiect wedi dechrau yn 2010 pan ddaeth heddlu Toronto o hyd i ddyn oedd yn rhannu lluniau graffig o gam-drin plant ar y We.

Roedd bron 200 o achosion wedi bod yng Nghanada a Gogledd America a thua 160 yng ngweddill y byd.

Erbyn mis Tachwedd 2013, roedd Heddlu Llundain wedi arestio 31 o bobol ac yn holi  am 36 arall.