Cwpan Nanteos
Mae gwobr o £2,000 ar gael i bwy bynnag fedr sicrhau dychweliad crair Cymreig a gafodd ei ddwyn o gartre’ yn Lloegr y llynedd.

Fe gafodd Cwpan Nanteos ei ddwyn o bentre’ Weston Under Penyard ger Ross on Wye yn Swydd Henffordd.

Y chwedl ydi mai o’r cwpan hwn yr yfodd Iesu Grist yn ystod y Swper Olaf, ond mae gwaith ymchwil yn awgrymu mai yn y 14eg ganrif y cafodd ei gynhyrchu.

Mae’r teulu sy’n berchen y cwpan yn cynnig gwobr o £1,000, a Heddlu West Mercia yn cynnig £1,000 arall i bwy bynnag fedr sicrhau fod y cwpan yn cael ei ddychwelyd yn ddiogel.

Roedd y cwpan wedi ei fenthyg i ddynes wael, am mai’r gred yw fod iddo rinweddau sy’n gwella cleifion. Ond fe ddaeth lladron i’w chartre’ tra’r oedd hi yn yr ysbyty yn ystod ail wythnos mis Gorffennaf y llynedd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu West Mercia ar y rhif 101.