Cynnydd yn y marciau gorau
Mae gan dros hanner y busnesau bwyd yng Nghymru bellach y sgôr uchaf posib am lendid – 5 – a hynny flwyddyn ar ôl i reolau newydd ddod i rym.

Yn ôl adroddiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, roedd 56% o fusnesau yn cael sgôr hylendid o 5 ym mis Tachwedd 2014 – cynnydd o 12% ar y flwyddyn gynt, pan ddaeth y system newydd i rym.

Ond mae bron un o bob pump busnes yn dal i gael sgôr o 3 neu lai ac mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod rhai’n cuddio hynny rhag eu cwsmeriaid.

Mae’r Llywodraeth a’r Asiantaeth wedi croesawu’r ffigurau gan ddweud bod y ddeddf newydd wedi helpu i godi safonau ymysg busnesau bwyd yng Nghymru.

Newid yn y ffigyrau

Cyn i Ddeddf Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ddod i rym doedd dim rhaid i fusnesau ddangos beth oedd eu sgôr hylendid, ond nawr mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny gydag arwydd mewn lle amlwg.

  • Ers y ddeddf honno mae’r canran o fusnesau sydd wedi cael sgôr o 5 wedi cynyddu o 45% i 56%.
  • Mae canran y busnesau a gafodd y sgôr isaf o 0 wedi cwympo o 0.6% i 0.3%.
  • Mae canran y busnesau sy’n cael 1 a 2 – sydd yn golygu bod angen gwella neu wella’n sylweddol – wedi cwympo o 13% i 6%.
  • Roedd gostyngiad bychan hefyd yn y canran a gafodd 4 (26%) a 3 (12%).

Codi safonau

“Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig drwy gyflwyno system sgorio hylendid bwyd statudol,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.

“Rwy’n falch bod y cynllun – y cyntaf o’i fath yn y DU – wedi bod mor llwyddiannus yn ystod ei 12 mis cyntaf.

“Mae adroddiad yr Asiantaeth yn cadarnhau bod safonau hylendid bwyd wedi parhau i wella mewn sefydliadau bwyd yng Nghymru, a bod arddangos y sgoriau’n orfodol wedi chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.”

Mwy i’w wneud

Fe gyfaddefodd Vaughan Gething fodd bynnag fod angen gwneud rhagor i gynyddu’r safonau – gan gynnwys sicrhau nad oedd busnesau sy’n cael sgorau isel ddim yn cuddio hynny oddi wrth y cyhoedd.

“Er ei bod yn siomedig bod rhai busnesau a gafodd sgôr isel wedi methu ag arddangos eu sticeri gyda’u sgôr, rwy’n siŵr bod awdurdodau lleol yn mynd i’r afael â hyn ac y byddant yn parhau i wneud hynny,” ychwanegodd Vaughan Gething.