Cyngor Ceredigion
Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo polisi newydd er mwyn ceisio gwarchod enwau Cymraeg ar gartrefi’r ardal.

Er nad yw’r cyngor yn medru atal perchnogion tai rhag newid enw eu tŷ, mae’r cabinet wedi pleidleisio o blaid rhoi cyfnod o 10 diwrnod i bobol sydd wedi cyflwyno cais i newid enw eu tŷ o’r Gymraeg i’r Saesneg i ail-feddwl.

Mae’n golygu bod Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor, gafodd ei gymeradwyo yn 2007, yn cael ei ddiwygio.

Mae’r arfer o newid enw tŷ o’r Gymraeg i’r Saesneg yn cael ei weld ledled Cymru ac mae deiseb wedi cael ei sefydlu mewn ymdrech i newid y gyfraith.

Diwylliant

O hyn ymlaen, fe fydd llythyr yn cael ei anfon at unrhyw un sy’n gwneud cais i newid enw tŷ o’r Gymraeg fyddai’n dweud:

“Ynghlwm a’r iaith Gymraeg, mae i’r ardal a’i phobol ddiwylliant, hanes a hunaniaeth gwbl unigryw. O ganlyniad mae enwau llefydd neu dai Cymraeg fel arfer yn cyfleu gwybodaeth am natur y lleoliad, ei hanes, diwylliant yr ardal neu’r sawl oedd yn arfer byw yna.

“Gall parchu enwau a thraddodiadau Cymraeg esmwytho’r broses integreiddio a chryfhau cysylltiadau cadarnhaol o fewn y gymuned.

“Mae llawer o berchnogion tai sy’n newydd i Gymru yn cael eu hunain yn berchen ar eiddo nad ydynt yn gallu ynganu ei enw neu wybod yr ystyr. Wrth allu deall y temtasiwn i gyfieithu neu newid yr enw i’r Saesneg, rydym yn awyddus i gynnig cyfle i chwi ail-ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.”