Fe fydd cyn ffatri brosesu caws yn Wrecsam yn cael ei droi yn ffatri brosesu ieir, gan greu 150 o swyddi.

Roedd cynghorwyr Wrecsam wedi pleidleisio neithiwr o blaid y cynllun i droi cyn safle First Milk ym Marchwiail yn ffatri brosesu ieir.

Y llynedd roedd cwmni Maelor Poultry wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y ffatri a fyddai’n cynnwys buddsoddi  £10 miliwn i ddatblygu’r safle i’w galluogi i brosesu 400,000 o ieir bob wythnos.

Neithiwr, roedd aelodau o’r pwyllgor cynlluniau wedi cymeradwyo’r cynlluniau, gyda naw cynghorydd yn pleidleisio o blaid y datblygiad a saith yn erbyn.

Mae rhai trigolion lleol wedi mynegi amheuon am y cynllun gan ddweud bod pryderon am y sŵn a’r arogl o’r ffatri.

Ond mae cynghorwyr yn dadlau y bydd yn creu nifer o swyddi yn Wrecsam ac yn gwneud defnydd o adeilad sydd wedi bod wag ers mwy na 12 mis.

Roedd 230 o bobl wedi colli eu swyddi yn ffatri First Milk y llynedd ar  ôl i’r cwmni golli cytundeb sylweddol gydag Asda.