Cyngor Gwynedd
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu gwesty newydd a fflatiau ar safle gwesty yn Abersoch heddiw.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys dymchwel Gwesty’r Tŷ Gwyn a gwneud gwaith a fyddai’n cynnwys adeiladu gwesty 42 ystafell wely gyda chyfleuster sba, bwyty/bar ac 18 o fflatiau preswyl gyda llefydd parcio.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r cais ddod ger bron Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor ac yn flaenorol, fe wnaeth swyddogion cynllunio’r cyngor argymell gwrthod rhoi caniatâd oherwydd nad oes cyfraniad at dai fforddiadwy lleol yn y cynlluniau.

Y tro hwn, roedd swyddogion wedi argymell cymeradwyo’r cynlluniau gan ddweud ei bod hi’n “gwbl amlwg” nad yw’n hyfyw yn ariannol i’r ymgeisydd ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar y safle, nac i wneud cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth oddi ar y safle.

Mae disgwyl i’r gwesty newydd gostio £12 miliwn i’w hadeiladu, ac y byddai’n cyfrannu £1.5m i’r economi lleol bob blwyddyn a chreu o leiaf 65 o swyddi all godi i 120 yn ystod misoedd yr haf.