Y rhedwr profiadol Alun Vaughan enillodd Hanner Marathon Ynys Môn Jones o Gymru y bore ma.

Gorffennodd Vaughan o Wynedd y ras mewn 1:11:21, wrth i Richard Roberts o Langefni orffen 0.27 eiliad y tu ôl iddo.

Daeth rhedwyr o bob rhan o wledydd Prydain i gystadlu, gan gynnwys nifer o Belfast, Sheffield, Derby a’r Alban.

Cafodd y ras ei chychwyn yn swyddogol gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.