Fe fydd criw o ymgyrchwyr yn gorymdeithio yn Nhredegar, man geni Aneurin Bevan, heddiw i dynnu sylw at eu brwydr i achub y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Cafodd ymgyrchwyr 999NHSTredegar eu hysbrydoli gan orymdaith debyg o Jarrow i Lundain y llynedd, ac mae’r criw hwnnw hefyd wedi helpu i drefnu’r digwyddiad heddiw.

Yn ogystal â thynnu sylw at y frwydr i atal toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd, fe fydd yr orymdaith hefyd yn gyfle i ddathlu bywyd a llwyddiannau Aneurin Bevan.

Mae disgwyl i bobol deithio o Eryri a rhannau o Loegr ar gyfer y digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd un o drefnwyr y digwyddiad, Marianne Phillips: “Rydyn ni’n clywed o hyd am y trafferthion mae ein Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu oherwydd toriadau i staff a gwasanaethau ond mae unrhyw un sydd wedi defnyddio ein meddygon teulu, ein hysbytai a’n gwasanaethau cymunedol lleol yn gwybod pa mor werthfawr ydyn nhw – ac roedden ni am fanteisio ar y cyfle i ddathlu hynny.”

Ymhlith y gwesteion arbennig fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad mae’r actor Michael Sheen a’r gantores Katy Treharne, a fydd yn canu nifer o ganeuon o sioeau cerdd yn ystod y digwyddiad.

Un o gefnogwyr arbennig y digwyddiad yw’r ymgyrchydd o Jarrow, Harry Leslie Smith, sy’n 92 oed.

Dywedodd: “Mae’r atgof o’r orymdaith gyntaf yn Jarrow yn fyw iawn yn fy nghalon oherwydd yn 1936, pan oedd y dynion hynny yn y gogledd wedi cerdded i’r de i fynnu’r urddas o gael gweithio am gyflog teg, fe wnaethon nhw ennyn balchder fy nghenhedlaeth i er mwyn i ni adeiladu’r Wladwriaeth Les ar ôl yr Ail Ryfel Byd.”