Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Llun: Bwrdd Iechyd)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi dweud y byddan nhw’n ailagor wardiau sydd wedi eu heffeithio gan haint norofirws “cyn gynted ag sy’n bosib”.

Roedd y ddwy ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant wedi cael eu cau i ddechrau ddydd Mercher.

“Fe wnaeth cau’r wardiau effeithio ar yr Adran Ddamweiniau a Brys nos Fercher a bore dydd Iau, ond mae’r rheiny oedd angen gwelyau nawr yn yr ysbyty wedi cael rhai,” meddai Kath McGrath, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredu Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

“Rydyn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa yn agos ac fe fyddwn ni’n ailagor y ddwy ward gafodd eu heffeithio cyn gynted ag y bydd yr haint wedi mynd.

“Yn y cyfamser gofynnwn i ymwelwyr ddilyn y cyfyngiadau ymweld sydd wedi cael eu sefydlu, ac rydym yn eu cynghori i beidio ag ymweld os oes ganddyn nhw symptomau eu hunain, neu wedi dod i gyswllt ag unrhyw un gyda symptomau norofirws, er mwyn ei atal rhag lledaenu.”