Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio am lifogydd posib ledled Cymru nos Sul.

Mae rhybuddion yn eu lle ar gyfer aber y Ddyfrdwy, Bae Abertawe, Penrhyn Gŵyr, Sir Benfro, Bae Ceredigion, Pen Llŷn ac Ynys Môn.

Fe fu’r llanw’n uwch nag arfer mewn amryw ardaloedd yn ystod y penwythnos.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, fe allai’r tywydd garw dorri amddiffynfeydd môr ac afonydd.

Mae 16 o rybuddion yn eu lle o hyd.