Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn
Mae adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys wedi ochri gydag ymgyrchwyr ac wedi diddymu cynlluniau i godi tyrbin gwynt ger cartref y bardd Dylan Thomas yn Nhalacharn.

Cafodd y cynlluniau i godi tyrbin gwynt  147 troedfedd o uchder ar Fferm Mwche eu cymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin ym mis Mehefin y llynedd.

Roedd ymgyrchwyr wedi protestio yn erbyn y cynlluniau gan ddadlau y byddai’n difetha’r olygfa o Dŷ Cwch Dylan Thomas.

Roedd yr ymgyrchwyr yn honni nad oedd y cynghorwyr wedi ymweld â’r safle, gan ychwanegu fod yr awdurdod lleol wedi gwrthod cyngor eu swyddog cadwraeth.

Roedd cannoedd o brotestwyr, gan gynnwys Cymdeithas Dylan Thomas, wedi  gwrthwynebu’r cynllun, gan fynnu ei fod yn “gwawdio canmlwyddiant geni’r bardd”.