Mae arolwg newydd wedi canfod mai trigolion mewn tref yng ngogledd Cymru sy’n yfed y mwyaf o baneidiau o de allan o holl wledydd Prydain.

Dangosodd ymchwil Tetley bod y rhan fwyaf o drigolion Wrecsam yn yfed te bob diwrnod o’r flwyddyn, boed glaw neu hindda.

Roedd un o bob pum person yn Newcastle a Wolverhampton yn yfed hyd at 12 paned o de y diwrnod ond gwelwyd bod pobol Llundain yn ffafrio te gwyrdd.

Cafodd 2,000 o bobol ledled Prydain eu holi ar gyfer yr arolwg ac mae’n dilyn adroddiad gan y Sefydliad Safonau Prydain wnaeth awgrymu bod y baned berffaith yn cael ei chreu drwy roi llefrith yn y gwpan yn gyntaf a gadael y bag te mewn dŵr am chwe munud.

Gwelwyd hefyd bod 70% o bobol yn Aberystwyth a gafodd eu holi yn cymryd o leiaf un llwyaid o siwgr yn eu te.

Dywedodd cyfarwyddwr marchnata Tetley, Amy Holdsworth: “Mae’n dangos bod te yn fwy na diod boeth yn unig, mae’n cynnal pobol ym Mhrydain.”