RSS

Golwg360

MwyCau 

Cerddi Ifor ap Glyn mewn cylchgrawn Galiseg

Chwefror 18, 2015 14:52


Ifor ap Glyn
Mae casgliad o gerddi Cymraeg gan Ifor ap Glyn wedi cael eu dewis i’w cyhoeddi mewn cylchgrawn Galiseg am y tro cyntaf erioed ac yn cael eu lansio ym Mhrifysgol Bangor y prynhawn yma.

Mae cerddi Terfysg, y cerddi a enillodd gystadleuaeth Y Goron i’r bardd o Gaernarfon yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, wedi cael eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Dorna ochr yn ochr â chyfieithiad i’r iaith Aliseg.

Bob blwyddyn, mae’r cylchgrawn sgwennu creadigol yn cynnwys adran o gerddi mewn iaith dramor neu Voces de fora – a’r Gymraeg sydd wedi cael ei dewis y tro hwn.

Dr David Miranda-Barreiro a Lorena López López o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor – lle mae’r Aliseg yn cael ei hastudio – a Philip Davies o Ysgol y Gymraeg y brifysgol gafodd eu dewis i gyfieithu’r cerddi a darparu cyflwyniad estynedig iddyn nhw.

Terfysg

18 o gerddi byrion yn trafod y diffyg ymateb a fu i gyhoeddi ffigurau Cyfrifiad 2011, oedd yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yw Terfysg.

“Roeddwn i’n teimlo nad oedd rhyw lawer o ymateb ond bod bywyd yn mynd yn ei flaen. ‘Doedden nhw ddim wedi ysgogi rhyw derfysg o brotest a dyna oedd man cychwyn y cerddi,” meddai Ifor ap Glyn wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Eisteddfod Dinbych.

“Ond creadur gwydr hanner llawn ydw i,” meddai. “Tra bo bywyd mae gobaith, ac o gymharu â phethau mewn gwledydd eraill mi allai pethau fod lot yn waeth.”

Gwaith newydd

Ychwanegodd un o’r cyfieithwyr, Philip Davies: “Rydan ni wedi mwynhau’r dasg o gyfieithu – mi gymrodd rhwng dau a thri mis i ni.

“Mi wnaeth Ifor adael i ni wneud ein gwaith heb ddweud dim byd, felly mae’r cyfieithiad yn waith hollol newydd.

“Doedd hi ddim yn bosib cyfieithu popeth gan fod lot o gyfeiriadau at gerddi hanesyddol Cymraeg a’r Mabinogi – ond mi rydan ni wedi trio troi ei farddoniaeth yn rhywbeth bron yn unigol o’r cerddi.”

Mae lansiad Terfysg yn yr iaith Aliseg yn cael i gynnal yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor am 4:00 y prynhawn yma.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.