Porth Eirias, Bae Colwyn
Mae’n bosib na fydd bwyty’r cogydd Bryn Williams yn agor yng nghanolfan chwaraeon dŵr  Porth Eirias, ym Mae Colwyn tan yr haf, sydd bron i ddwy flynedd y tu ôl i’r amserlen wreiddiol.

Clywodd pwyllgor trosolwg Cyngor Conwy heddiw fod disgwyl i’r gwaith adeiladu ar safle’r bwyty ym Mhorth Eirias gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill ac yna fe fydd y gwaith o addurno’r adeilad yn cael ei roi yn nwylo Bryn Williams.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i fwyty’r Cymro ym Mhorth Eirias agor ym mis Tachwedd 2013 ond fe newidiodd hynny i fis Ionawr 2014– ac yn ôl y cyngor bu oedi pellach oherwydd “gwaith papur a materion cyfreithiol”.

Ym mis Awst y llynedd, fe wnaeth y cyngor gyfrannu £19,000 yn ychwanegol at addasu’r gegin ar gyfer y bwyty, sef hanner y gost o £38,000, gyda Bryn Williams yn talu’r gweddill.