Mae pwyllgor gwaith Cyngor Sir Ynys Môn wedi gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â  chodi tâl am ofal plant mewn clybiau brecwast cyn oriau ysgol.

Ar hyn o bryd, mae cynllun brecwast am ddim Llywodraeth Cymru yn golygu bod gan bob plentyn cynradd hawl i gael brecwast am ddim os nad ydyn nhw’n cael pryd o fwyd cyn dod i’r ysgol.

Ond drwy wneud i rieni dalu £1.50 am y gofal sy’n cael ei roi gan athrawon a gweithwyr ysgol yn y bore, cyn i’r brecwast gael ei ddarparu, mae’r cyngor yn dweud y gallai godi £171,000 y flwyddyn a chyfrannu at y diffyg o £4 miliwn sy’n ei wynebu.

Ond fe gyhoeddodd y cyngor heddiw y bydd ymgynghori pellach gyda rhieni yn golygu y caiff penderfyniad terfynol ei ohirio tan fis Mai.

Eglurodd y Cynghorydd Williams: “Rydym wedi gwrando ar yr hyn mae pobl wedi ei ddweud wrthym ac felly’n bwriadu cynnal asesiad effaith llawn o’r cynnig.

“Tydi hyn ddim yn golygu y byddwn yn diystyru’r posibilrwydd o ofyn i rieni gyfrannu tuag at gost oruchwyliaeth bore mewn ysgolion. Os byddwn yn darganfod bod yr arbediad effeithlonrwydd yn anghyraeddadwy neu’n annerbyniol, bydd arian wrth gefn yn cael ei neilltuo i falansio’r gyllideb.”

Treth cyngor

Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi cefnogi cynnydd o 4.5% mewn treth cyngor fel rhan o’i gynigion ar gyfer cyllideb terfynol 2015/16.

Meddai’r cyngor fod y penderfyniad wedi dod yn dilyn ymgynghori gyda thrigolion, cynghorau tref a chymuned. Mae’r codiad yn cyfateb â 85c yn fwy yr wythnos ar gyfer eiddo Band D.

Bydd y cynnig yn mynd ger bron y cyngor llawn ar 26 Chwefror ond petai’n cael ei fabwysiadau, byddai treth cyngor Ynys Môn yn parhau i fod ymysg yr isaf yng Nghymru.

Dywedodd y cyngor y byddai’r cynnydd yn galluogi’r awdurdod i barhau i foderneiddio gwasanaethau allweddol tra’n osgoi, cyn belled â phosib, cau’r cyfleusterau sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan y cyhoedd.

Bydd ysgolion hefyd yn gweld cynnydd yn eu cyllideb sydd yn cwrdd ag addewid Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllido ysgolion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ieuan Williams: “Mae ein cynigion y Gyllideb eleni mor bositif â phosib o gofio’r heriau ariannol enfawr sy’n ein hwynebu.

“Mae’n Gyllideb sy’n ceisio cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor tra’n cadw gwasanaethau statudol ar y lefel ofynnol.

“Bydd rhai gwasanaethau’n cael eu torri, ond rydym wedi gwrando ar drigolion a cheisio diogelu gwasanaethau anstatudol, sydd hefyd yn rhan bwysig o fywyd y gymuned Môn, cymaint â phosib. Mae hyn, fodd bynnag, yn dod yn fwy ac yn fwy anodd ei wneud bob blwyddyn.”