Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried y cymhorthdal ffioedd dysgu  er mwyn i brifysgolion allu cystadlu gyda’r gorau yn y DU.

Daw’r galwad wedi i bennaeth y corff sy’n cyllido addysg uwch yng Nghymru rybuddio y gall y system bresennol weld Prifysgolion Cymreig ar eu colled.

Wrth siarad gyda’r BBC, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Dr David Blaney, fod angen newid y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i golegau.

Mae ffigyrau’n awgrymu fod llawer o’r arian – hyd at £90 miliwn eleni’n unig – sy’n cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru yn mynd i goffrau prifysgolion yn Lloegr tra bod Prifysgolion Cymru yn cael trafferth cystadlu â nhw oherwydd hynny.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru, waeth ble yn y DU maen nhw’n penderfynu mynd i’r coleg.

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Angel Burns AC, llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru,  fod y ffigyrau’n dangos fod Prifysgolion Cymru o dan “anfantais fawr”.

Meddai: “Ar adeg pan mae Llafur yn gwneud toriadau llym i gyllidebau addysg bellach ac mae gan brifysgolion lai o arian i’w fuddsoddi, ni all Llywodraeth Cymru fforddio gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn yn rhoi cymhorthdal ffioedd myfyrwyr.

“Mewn rhannau eraill o’r DU, nid yw myfyrwyr yn talu ceiniog o’u ffioedd ymlaen llaw a dim ond yn ad-dalu’r gost ar ôl iddyn nhw raddio ac ennill o leiaf £21,000 – ffigwr sy’n fwy ‘na’r cyflog cyfartalog yng Nghymru.

“Rhaid i Weinidogion Llafur wrando ar y galwadau cynyddol o’r sector addysg uwch i ail-ystyried y cymhorthdal ffioedd dysgu fel y gall ein prifysgolion ni gystadlu gyda’r gorau yn y DU, a thu hwnt, mewn ymchwil ac addysgu os ydynt yn derbyn cyllid teg.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru yn dechrau yn y gwanwyn. Mae disgwyl i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Medi 2016.