Dylid datganoli pwerau tros hela â chŵn i Gymru, yn ôl Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, Roger Williams.

Dywedodd Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed wrth raglen Sunday Supplement y BBC fod y drefn o reoli llwynogod yn wahanol yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl y gyfraith bresennol a gafodd ei chyflwyno ddeng mlynedd yn ôl, gall dau gi gael eu defnyddio i hela llwynog cyn ei saethu, ond dydy hynny ddim yn ddigon, yn ôl Roger Williams.

Galwodd am gyflwyno’r hawl i ddefnyddio mwy o gŵn.

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad Llafur, Julie Morgan, dydy’r rhan fwyaf o aelodau’r Cynulliad ddim am weld newid yn y gyfraith a bod y rhan fwyaf yn gwrthwynebu hela.

Dywedodd Roger Williams wrth Sunday Supplement: “Mae rheoli llwynogod yng Nghymru’n hollol wahanol i reoli llwynogod mewn rhannau helaeth o Loegr ac rwy’n credu felly y byddai’n dda iawn pe bai’r ddeddfwriaeth ynghylch rheoli llwynogod yn cael ei datganoli i Gymru.

“Fe allen ni gael y trafodaethau hynny a chyflwyno deddfwriaeth sy’n hollol berthnasol i Gymru.”