Trystan Lewis, arweinydd Cor Cymysg Dyffryn Conwy
Mae Côr Cymysg Dyffryn Conwy yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed y penwythnos hwn gyda pherfformiad o’r opera gyntaf yn Gymraeg, Blodwen.

Nos yfory yng Nghapel Seion, Llanrwst, fe fyddan nhw’n perfformio fersiwn gyngerdd y gwaith gan Joseph Parry, yng nghwmni yr unawdwyr Mary Lloyd Davies, Eldrydd Cynan-Jones, Kate Griffiths, Aled Wyn Davies, Iwan Wyn Parry, Gwilym Bryniog Davies a Gwyn Vaughan Jones.

Ffurfiwyd y côr gan Trystan Lewis yn 2004 er mwyn perfformio oratorio a gweithiau safonol. Maen nhw eisoes wedi perfformio Y Meseia yn ogystal ag Eleias, Stabat Mater, Requiem Verdi, Y Greadigaeth, ymysg eraill.

“Mae yna ddegau o gorau cymysg yng Nghymru sy’n canu repertoire amrywiaethol, sydd yn ardderchog, ond prin yw’r corau yng Nghymru bellach sy’n mynd i’r afael â chyfanweithiau gyda cherddorfa,” meddai Trystan Lewis.

“Dw i’n cael fy nghyhuddo yn aml o berfformio gweithiau rhy uchel-ael, ond dyna’n union oedd gen i eisiau ei wneud hefo’r côr. Yn amlach na pheidio bellach dim ond un corws allan o’r gweithiau hynny a glywn i mewn cyngerdd neu gystadleuaeth.”

Y tro diwethaf i’r côr berfformio Blodwen yn 2008, roedd pafiliwn Y Rhyl yn llawn.

“Mae hyn yn gyfle prin i gael clywed yr opera gyntaf yn Gymraeg, gan gynnwys y ddeuawd enwog rhwng Hywel a Blodwen a’r unawd i denor ‘Fy Mlodwen, f’anwylyd’,” meddai Trystan Lewis.