DNA
Mae rhaglen deledu nosweithiol S4C, Heno, yn gwneud apêl yr wythnos hon i ddynion sydd a’r cyfenw “Tudor” i gymryd prawf DNA, er mwyn gweld os ydyn nhw’n perthyn i’r Tuduriaid.
Daw’r apêl cyn i gyfres DNA Cymru ddechrau nos Sul, 1 Mawrth lle bydd y cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetig person.
Er mwyn ceisio dod o hyd i berthnasau Cymreig teyrnaswyr brenhinol Tuduraidd, bydd rhaglen Heno’n rhoi 20 o becynnau poeri, gwerth tua £200, i ymgeiswyr.
Bydd y canlyniadau yn datgelu un ffordd neu’r llall a ydyn nhw’n perthyn i’w gilydd yn y llinach wrywol ac i ba linach maen nhw’n perthyn.
Cysylltiad
Cafodd y pecyn cyntaf ei gyflwyno yn fyw ar yr awyr i Steffan Tudor, athro yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, ar raglen Heno neithiwr.
“Mae’n gyffrous iawn bod y prosiect DNA yn caniatáu i ni chwilio am y rheini all fod yn perthyn i’r Tuduriaid,” meddai Angharad Mair, cyflwynydd Heno.
“Gobeithio y bydd yn ffordd o ddod o hyd i rai sy’n byw yng Nghymru ac sy’n dod o linach Henry Tudor.”