Burt Bacharach
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi y bydd y canwr enwog Burt Bacharach yn perfformio yn eu cyngerdd agoriadol eleni.

Mae’r canwr 87 oed o America wedi ennill Oscar a sawl Grammy yn ei yrfa lwyddiannus ac wedi cael ei ddisgrifio gan rai fel cyfansoddwr gorau’r 20fed ganrif.

Dyma fydd y tro cyntaf iddo berfformio yng ngogledd Cymru.

“Pan ddywedodd Burt ei fod yn medru dod i ganu ar y nos Lun, roedd yn gyfle rhy dda i’w fethu,” meddai Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths.

“Mae o’n un o’r enwau mwyaf ym myd cerddoriaeth ac rwyf wrth fy modd y bydd yn perfformio ac yn arddangos ei dalentau ar lwyfan yr Eisteddfod.”

Fe fydd Alfie Boe, Sophie Evans, y sacsoffonydd Amy Dickson a’r tenor Jonathan Antoine  hefyd yn perfformio yn ystod yr ŵyl.