Gwenno Williams
Mae’r Bil Asbestos wedi amlygu unwaith eto rhai o ddiffygion y drefn ddatganoli, yn ôl Gwenno Williams …

Wel am gic i’r asennau! Yr wythnos yma, fe wnaeth y Goruchaf Lys wrthdroi Bil Asbestos a basiwyd gan y Cynulliad yn Nhachwedd 2013, gan ddatgan nad oes gan y Cynulliad y pŵer deddfwriaethol i gyflwyno cyfraith o’r fath.

Bwriad y bil oedd mynnu mai cyfrifoldeb busnesau a’u cwmnïau yswiriant, ac nid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yw ariannu triniaeth feddygol gweithwyr o ganlyniad i effeithiau asbestos.

Derbyniodd y bil gymeradwyaeth am gosbi’r rhai a oedd yn gyfrifol am droi llygad ddall at y defnydd o asbestos yn eu gweithleoedd, gan ad-dalu’r GIG ar yr un pryd.

Cynigodd Mick Antoniw, AS Pontypridd, y bil ar ôl gweld effaith asbestos ar unigolion a’u teuluoedd yn ystod ei yrfa fel cyfreithiwr.

Rhagolygwyd y byddai’r bil yn cynhyrchu hyd at £1miliwn y flwyddyn i’w ddefnyddio gan y GIG i ymhelaethu ar driniaethau mesothelioma, sef y cancr a achosir gan asbestos.

Ar ôl blwyddyn i’w anghofio yn hanes y GIG, byddai miliwn ychwanegol bob blwyddyn wedi cael ei dderbyn yn llon.

Pŵer y cwmnïau mawr

Ond wrth gwrs, cafodd y bil ei herio o’r cychwyn cyntaf gan y cwmnïau yswiriant a Chymdeithas Yswirio Prydain.

Teimlaf anghrediniaeth lwyr wrth weld y pŵer sydd gan fusnesau Llundain dros systemau cyfreithiol y wlad, a’u bod wedi llwyddo unwaith eto i osod agenda barus yn uwch na’u dyletswyddau dinesig.

Mae’n gwbl amlwg pwy ddylai dderbyn y bai am achosi’r cymhlethdodau iechyd. Rheolwyr y busnesau oedd wedi anwybyddu’r goblygiadau o ddefnyddio asbestos yn eu hadeiladau, ac felly rhaid iddynt dderbyn y canlyniadau ac ysgwyddo’r baich ariannol.

Ond eu dadl nhw ydi y byddai’r bil wedi achosi cynnydd yn nhaliadau yswiriant busnesau Cymru, heb ategu unrhyw fudd ychwanegol i ddioddefwyr mesothelioma.

Mae’n gwbl eironig iddynt hefyd hawlio y bydd y ddeddf yn mynd yn groes i’r Bil Hawliau Dynol Ewropeaidd – bil y mae eu ffrindiau ym mhlaid y Torïaid wedi’i wawdio ers ei gyflwyniad ym Mhrydain yn 2000.

Mae dylanwad y cwmnïau yma hyd yn oed yn fwy eglur o ystyried bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu o blaid gallu ddeddfwriaethol y Cynulliad mewn achosion blaenorol, megis newidiadau i is-ddeddfau llywodraethau lleol ac ail-sefydlu’r Bwrdd Cyflogau  Amaethyddol.

Gwaelod y domen

Y cwmnïau yswiriant oedd hefyd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am blannu’r hedyn ynglŷn â chymhwysedd y Cynulliad i wneud newidiadau cyfreithiol o’r fath.

Ac felly gwelwn wir broblem yr achos yma, sef y diffyg gallu sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w thrigolion heb ganiatâd.

Er bod y pwerau gennym i benderfynu ar ariannu a threfnu’r GIG, mae’n debyg nad ydyn ni’n gymwys i fynd yn erbyn trefn gweddill Prydain.

Ar ôl yr holl halibalŵ am geisio creu Prydain decach yn sgil y galwad am annibyniaeth i’r Alban a’r addo di-baid am ddatganoli pellach, dyma ni unwaith eto ar waelod y domen.

Tybed os fyddai’r canlyniad wedi bod yr un fath petai Llywodraeth yr Alban wedi cynnig y bil? Mae gwrthod pasio bil ar y sail ei fod y tu hwnt i’n gallu gwleidyddol yn sarhaus i ddweud y lleiaf.

Mae’n cwestiynu rôl y Cynulliad, gan droi Cymru’n blentyn mewn gwirionedd, gyda San Steffan yn lapio ychydig o bwerau yn anrheg i’n cadw’n hapus a mud.

Ond yr eiliad rydyn ni’n camfihafio a gofyn am fwy, daw’r ymateb anhygoel o wrthod ein cydnabod a mynnu ein bod ni’n ddiolchgar am y briwsion sydd gennym.

Mae’r holl beth yn tanseilio datganoli yn llwyr, gan ein hysgogi i ystyried faint o bŵer sydd wir gennym wrth reoli ein gwlad ein hunain.

Gydag eleni’n flwyddyn etholiad, mae’n bryd i ni ystyried ein datblygiad dros y pedair blynedd diwethaf, gan ofyn am ychydig o eglurhad am beth yn union sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Mawr obeithiaf y bydd pob plaid wleidyddol yng Nghymru yn gosod datganoli yn uchel ar yr agenda, a bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd gan y cyhoeddiad ar ddatganoli ar Ddydd Gŵyl Dewi i’w gynnig yn y gobaith o osgoi ffars arall fel hon yn y dyfodol.

Mae Gwenno Williams yn fyfyrwraig fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.