Fe fydd cynghorwyr Wrecsam yn trafod cynnig i drosglwyddo rheolaeth o lyfrgelloedd y sir i ymddiriedolaeth yn ne Cymru mewn cyfarfod y prynhawn yma.

Bwriad y cynllun yw rhoi dyfodol cynaliadwy i rai o 11 llyfrgell Wrecsam sy’n wynebu cael eu cau ar hyn o bryd, yn ôl y cyngor.

Mae aelodau hefyd yn ystyried rhoi’r rheolaeth o ganolfannau hamdden ac amgueddfeydd y sir o dan ofal ymddiriedolaeth arall.

Daw’r cyfarfod wedi cyhoeddiad gan y cyngor y mis diwetha’ y bydd llyfrgelloedd Brymbo a Gresffordd yn cau ac y bydd oriau llyfrgelloedd eraill yn yr ardal yn cael eu cwtogi, mewn ymgais i arbed tua £92,000.

Dyfodol

Credir bod cynghorwyr wedi cynnal trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Hamdden, ym Mlaenau Gwent a gydag Ymddiriedolaeth Hamdden  Merthyr Tudful – ac y byddai rhoi rheolaeth o’r llyfrgelloedd yn nwylo cwmni arall yn rhatach na chreu cwmni newydd i ddelio a’r gwaith.

Pe bai’r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo, mae’r cyngor wedi dweud y byddai gwasanaethau’r llyfrgelloedd yn parhau i gael eu rhedeg gan Gyngor Wrecsam.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 2:00 y prynhawn yma.