Y Goruchaf Lys
Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i orfodi cwmnïau i dalu am gostau meddygol gweithwyr sydd wedi dioddef o effeithiau asbestos.

Fe ddyfarnodd y llys y bore ma bod y ddeddf, a gafodd ei phasio gan Aelodau Cynulliad yn 2013, y tu hwnt i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad.

Roedd cwmnïau o’r diwydiant yswiriant wedi herio’r ddeddf. Byddai wedi golygu bod yn rhaid i gwmnïau a busnesau ad-dalu costau triniaeth feddygol gweithwyr sy’n dioddef oherwydd asbestos i’r Gwasanaeth Iechyd.

Mewn datganiad ar wefan y Goruchaf Lys cyhoeddodd, “ei bod wedi canfod nad yw’r Cynulliad yn meddu ar y cymhwysedd cyfreithiol i weithredu’r Mesur ‘Adennill Costau Cyfreithiol Afiechyd Asbestos’ yn ei ffurf bresennol.”

‘Angen yr un pwerau a’r Alban’

Aelod Cynulliad Llafur dros Bontypridd, Mick Antoniw, oedd wedi cyflwyno’r ddeddf yn wreiddiol yn 2012, wedi iddo gael profiad helaeth o weithio gyda dioddefwyr asbestos pan oedd yn gyfreithiwr yn yr ardal.

Ar ei gyfrif trydar, dywedodd yr AC ei fod wedi’i “siomi” gan ychwanegu:

“Mae penderfyniad y Goruchaf Lys yn datgelu’r methiannau yn y broses gynllunio ac fe ddylai hynny gael ei gywiro. Rydym angen yr un pwerau a’r Alban.”

‘Cymhleth’

Mewn ymateb i benderfyniad y Goruchaf Lys, dywedodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler:

“Mae Dyfarniad y Goruchaf Lys yn ategu ymhellach pa mor gymhleth yw’r setliad datganoli yng Nghymru.

“Fel y dywedais eisoes yn fy nghyflwyniad i Gomisiwn Silk, ac mewn datganiadau ar ôl Refferendwm yr Alban, mae angen mwy o eglurder arnom er mwyn ei gwneud yn haws i bawb ddeall beth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.”