Ian Watkins
Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu’r penderfyniad i symud cyn-ganwr y Lostprophets o garchar Categori A i garchar Categori B.

Mae lle i gredu bod Watkins, sydd wedi’i garcharu am 29 o flynyddoedd am droseddau rhyw yn erbyn plant, wedi cael ei symud o garchar Long Lartin yn Swydd Gaerwrangon i garchar Rye Hill yn Swydd Warwick.

Mae carchar Rye Hill yn garchar sy’n benodol ar gyfer troseddwyr rhyw.

Mae deiseb wedi cael ei sefydlu gan gyn-gariad Watkins, Joanne Mjadzelics yn rhoi pwysau ar Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, Chris Grayling i wyrdroi’r penderfyniad.

Yn ôl Mjadzelics, mae Watkins bellach yn cael ei gadw mewn “hafan ar gyfer pedoffiliaid”.