Peter Black AC
Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gydraddoldeb, Peter Black,  wedi croesawu’r ffaith mai Chwefror yw Mis Hanes pobol lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT).

Bwriad Mis Hanes LGBT yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth er budd y cyhoedd yn ogystal â dathlu bywydau a chyfraniad pobol Lesbaidd, Hoyw, y Deurywiol a Thrawsrywiol.

Meddai Peter Black: “Mae’n bwysig cydnabod a dathlu cyfraniadau anhygoel aelodau’r gymuned LGBT yn ein rhanbarth ac ar hyd a lled Cymru … rydw i’n falch bod Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a ledled Ynysoedd Prydain wedi bod ar flaen y gad ers degawdau wrth fynnu cydraddoldeb i lesbiaid, hoywon, y deurywiol a’r trawsrywiol.

“Ni sydd â’r record orau o blith holl bleidiau gwleidyddol Senedd San Steffan ar faterion cydraddoldeb LGBT, a byddwn yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo polisïau sy’n llesol iddyn nhw.

“Yma yng Nghymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig oedd y cyntaf i ddechrau trafod y materion sy’n effeithio’r gymuned drawsrywiol, yn y Cynulliad nôl yn Nhachwedd 2014.

“Rhaid i ni fyth anghofio’r degau o filoedd o bobol hoyw a gafodd eu herlid a’u dienyddio mor giaidd dan law’r Natsïaid, a hynny dim ond oherwydd eu rhywioldeb.”