Mae Prif Weithredwr Clwb Ffermwyr Ifanc wedi dweud wrth golwg360 bod gobaith y bydd cynnig am arian newydd gan Lywodraeth Cymru, yn cyfateb i’r grantiau sydd wedi cael eu colli eleni.

Bu cyfarfod rhwng arweinwyr y Ffermwyr Ifanc a swyddogion amaeth Llywodraeth Cymru ddoe i drafod y torri nôl ar yr arian cyhoeddus sy’n mynd i’r mudiad.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd y Ffermwyr Ifanc bod Llywodraeth Cymru yn dileu grant gwerth £360,000 iddyn nhw dros dair blynedd, a’u bod yn sgil hynny yn wynebu dyfodol ariannol ansicr.

Cafodd penderfyniad y Llywodraeth ei feirniadu’n hallt gan y gwrthbleidiau yn y Cynulliad, gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn dweud ei bod yn “drasiedi” nad yw’r Llywodraeth yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Ffermwyr Ifanc.

Pethau’n edrych yn well

Mae’r mudiad yn cyflwyno cais o’r newydd am arian, ac yn “gobeithio” y bydd yr arian newydd yn cyfateb i’r £360,000 a gollwyd.

“Mae’n annod dweud ein bod ni’n 100% siŵr o gael y cynnig, ond mae’n edrych yn llawer gwell rŵan nag oedd hi’r wythnos diwethaf,” meddai’r Prif Weithredwr Nia Lloyd.

“Rydym yn gobeithio y bydd y cynnig yn eithaf agos i’r grantiau sydd wedi cael eu tynnu nôl.”

Trafodaeth gadarnhaol

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd Iwan Meirion, Cadeirydd CFfI Cymru: “Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru. Cafwyd trafodaeth gadarnhaol ac agored lle a chytunwyd i gwblhau cynnig i Weinidogion yn y dyddiau nesaf.

“Bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu cymryd yn y pythefnos nesaf.“Hoffai Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru gydnabod cefnogaeth yr isadran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, yn ogystal â’r diwydiant amaeth ehangach, gan gynnwys budd-ddeiliaid, gwleidyddion a chefnogwyr.”