Heboglys Attenborough (Llun:PA)
Mae blodyn gwyllt newydd sy’n tyfu ym Mannau Brycheiniog wedi cael ei enwi ar ôl y naturiaethwr David Attenborough.

Fe gafodd y Hieracium attenboroughianum ei nodi am y tro cynta’ 10 mlynedd yn ôl, ond mae hi  wedi cymryd degawd o ymchwilio i wneud yn siŵr ei fod yn flodyn newydd.

Mae’r aelod o deulu’r heboglys yn tyfu ar fynydd creigiog Cribyn yng nghanol Bannau Brycheiniog, ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn perthyn i deulu blodau Llygad y dydd a Dant y Llew.

Mae i’w weld gan amla’ ddiwedd mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Y gred yw ei fod wedi tyfu ac esblygu yn y Bannau Brycheiniog ers Oes yr Iâ.

Breuddwyd

Dyma’r planhigyn byw cyntaf ym Mhrydain i gael ei enwi ar ôl David Attenborough, sydd wedi dweud ei fod “wrth ei fodd” bod ei enw’n cael ei ddefnyddio.

“Mae darganfod rhywogaeth newydd yn foment gyffrous iawn ac yn rhywbeth y mae naturiaethwr yn breuddwydio amdano,” meddai Tim Rich, un o’r gwyddonwyr a ddaeth o hyd i’r blodyn.

“Fe benderfynais enwi’r blodyn ar ôl David Attenborough am ei fod wedi fy ysbrydoli i astudio ecoleg pan o’n i’n 17 oed.”