Lesley Griffiths
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwario dros £6.6 miliwn ar sefydliadau gwirfoddol sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi heddiw.

Fel rhan o hyn, bydd cyllid gwerth dros £4.8 miliwn y cael ei glustnodi ar gyfer y sefydliadau cefnogol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r Canolfannau Gwirfoddol.

Bydd y Gronfa Gwirfoddoli yng Nghymru, sy’n cynorthwyo sefydliadau yn y Trydydd Sector i gefnogi a datblygu gwirfoddolwyr newydd, yn cael dros £817,000 a GwirVol, partneriaeth gwirfoddoli gan bobol ifanc, yn cael dros £587,000.

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi gwaith Uned Cofnodion Troseddol CGGC, sy’n helpu sefydliadau’r Trydydd Sector i ddiogelu plant ac oedolion drwy recriwtio’n fwy diogel yn ogystal â Chronfa Meithrin Gallu Partneriaeth.

Cyfraniad

“Mae’r Trydydd Sector yn gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd yng Nghymru,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

“Mae’r amgylchedd economaidd heriol sydd ohoni a’r newidiadau a wnaed i’r budd-daliadau lles yn golygu bod gwir angen cymorth ar deuluoedd oddi wrth y Trydydd Sector.

“O ganlyniad, mae’n hanfodol bod sefydliadau yn parhau i weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd arloesol i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cyflenwi mor effeithlon ag sy’n bosibl.”

Ychwanegodd Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC: “Bydd y cyllid yn fodd i gynorthwyo grwpiau sy’n gweithio yn y rheng flaen i ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau gan roi pobol yn y canol.”