Mae’r Co-op wedi cyhoeddi eu bod yn anelu at godi cannoedd o filoedd o bunnau tuag at brosiectau cymunedol yng Nghymru o’r elw o werthiant eu bagiau plastig.
Bydd siopau bwyd y cwmni yn gwerthu bagiau newydd y gellir eu hailgylchu am £1 yr un, yn ychwanegol i’r gost o fagiau 5c sy’n cael ei godi mewn siopau yng Nghymru, gyda’r holl elw yn mynd at brosiectau cymunedol.
Mae elw o fagiau plastig 5c y cwmni eisoes yn mynd at raglenni gwarchodaeth.
Meddai Cyfarwyddwr Bwyd Rhanbarthol Cymru, Matthew Speight: “Rydym yn parhau i rannu’r weledigaeth o leihau nifer y bagiau plastig sy’n cael eu defnyddio unwaith.
“Trwy brynu un o’r bagiau ail-gylchu newydd yma bydd cwsmeriaid yn medru cyfrannu at yr amgylchedd yn ogystal â helpu achosion da yng Nghymru.”
Nid yw’r cwmni wedi cyhoeddi pa brosiectau cymunedol fydd yn derbyn yr arian hyd yn hyn.