Mae apêl wedi’i sefydlu i godi arian i atgyweirio un o gapeli hanesyddol pwysicaf Cymru cyn 140 mlwyddiant un o’i ddigwyddiadau mwyaf nodedig.

Yn 2016, fe fydd dathliad i gofio am ddigwyddiad dramatig yng Nghapel Llwynrhydowen ger Llandysul.

Cafodd y gynulleidfa ei chau allan o’r capel a’r fynwent oherwydd bod y gweinidog yn cael ei gyhuddo o annog pobol i fynnu eu hawliau.

Gwnaeth y ‘troad allan’ bara tair blynedd ac fe gafodd ei achosi gan denantiaid yn cael eu cosbi am bleidleisio yn erbyn gorchymyn eu landlordiaid.

Arweiniodd y digwyddiad at sefydlu’r bleidlais gudd, sy’n parhau hyd heddiw ar gyfer etholiadau.

Fel rhan o’r apêl, bydd gofyn i unigolion dalu £10 i noddi un o’r llechi i atgyweirio’r to.

Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion Llwyn, y Cynghorydd Peter Davies wrth wefan Addoldai Cymru: “Roedd y digwyddiadau o amgylch Capel Llwynrhydowen wedi helpu i newid hanes gwledydd Prydain am byth.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cofio stori arwrol fel hon ac mae’r capel yn symbol o frwydr pobl gyffredin Cymru a thu hwnt i gael eu hawliau.

“Mae’r capel wedi bod mewn peryg ers blynyddoedd ond nawr mae yna gyfle i’w achub a’i warchod a rhoi bywyd newydd iddo.

“Fe fydd noddi llechen yn sicrhau hynny ac yn rhoi cyfle gwych i bobl gael eu cofio, neu gofio am eraill.”