Hefin Jones sy’n dadlau “mai’r un un parti yw Llafur a’r Ceidwadwyr bellach i bob pwrpas”…

Ac ystyried y trafodaethau yn San Steffan y dyddiau hyn roedd yn amser addas i Oxfam ddatgan fod hanner cyfoeth y byd yn nwylo 1% o’r boblogaeth.

Un o’r ffyrdd traddodiadol o symud arian cyhoeddus i ddwylo preifat dethol oedd rhyfel. A thra fod hynny’n dal i fynd ymlaen ar raddfa sylweddol, mae dulliau eraill newydd sy’n gweld ein trethi oll yn cyfoethogi’r hufen ar y top.

Yn nhrydariad y Tori Guto Bebb yn llongyfarch Llafur am gefnogi mesur ei lywodraeth am fwy o ‘austerity’ mi ddangoswyd unwaith yn rhagor mai’r un un parti yw Llafur a’r Ceidwadwyr bellach i bob pwrpas. Rhaid edmygu’r hyder o bleidleisio dros £30biliwn o doriadau pellach ar wariant cyhoeddus ddyddiau cyn pleidleisio ar adnewyddu arf niwclear fydd dros dair gwaith yn fwy costus. Yn y ddadl ddiweddar datganiodd aelod Llafur athrylithgar fod “Russian submarines are coming up the Clyde now!” er mwyn esbonio i’r SNP a Phlaid Cymru pa mor anghyfrifol yr oeddent yn gwrthwynebu’r gwariant. Wel, niwcliareiddiwn yn erbyn y fath oresgyniad felly. Mae draig mawr ffyrnig newydd coch gan San Sior ac mae Andreas a Dewi’n rhy ddall i’w weld.

Cwmnïau i erlyn llywodraethau

Yn ogystal â’r £100biliwn ar fersiwn newydd o Trident, dyfais a’i unig bwrpas posib yw sicrhau fod Rwsia a Tseina’n gwybod y caent eu chwalu ar fympwy’r Sais, mae senedd Llundain yn trafod y `Transatlantic Trade and Investment Partnership`, sef cytundeb newydd rhwng yr Unol Daleithau a gwledydd Ewrop i greu marchnad rydd lwyr i’w cwmnïau. Ymysg ei effeithiau, mae’n golygu fod cwmnïau preifat hefo hawl i erlyn llywodraethau ac unigolion os ydynt yn effeithio eu helw mewn unrhyw ffordd.

Os yw hyn yn swnio’n afreal mi fedrem fynd i enghraifftiau presennol er mwyn cael blas o’r hyn a ddaw.  Mae cwmni mwyngloddio Oceana Gold yn mynd â llywodraeth El Salvador i’r llys am $301miliwn oherwydd eu penderfyniad i wrthod gadael i’r cwmni gloddio tir gerllaw cymunedau. Mae afon San Sebastian wedi ei gwenwyno’n barod gan y fath beth, gan achosi afiechydon.

Mae’r Aifft yn y llys am godi eu isafswm cyflog ac yn wynebu costau o £50miliwn. Yn y dirwasgiad achoswyd gan yr International Monetary Fund mi aeth y cwmnïau ynni â’r Ariannin i’r llys ar ôl iddynt ddynodi na fyddai prisiau yn codi. Mae Monsanto yn mynd â ffermwyr Guatemala i’r llys am feiddio safio hadau o un flwyddyn i’r nesaf fel maen nhw wedi gwneud am ganrifoedd, yn hytrach na gorfod eu prynu o’r newydd gan eu cwmni. ‘Eiddo deallusol’ Monsanto yw hadau bellach a phedair mlynedd dan glo fydd y gosb. Mae’r cwmni tobaco Phillip Morris yn mynd â llywodraeth Uruguay i’r llys am ymgyrch i annog pobl i beidio ag ysmygu. Dyna bendraw’r cytundebau ‘masnach rydd’ honedig yma.

Bilionêrs ar gynnydd

Ffaith ddifyr arall gafwyd gan Oxfam sy’n dangos ein bod ni ‘i gyd ynddi hefo’n gilydd’ yw fod nifer biliwnyddion y byd wedi dyblu ers i’r llywodraethau dalu’r banciau. Does bron yr un o’r banciau wedi methu codi bonysus, hyd yn oed y rhai oedd rhaid eu meddianu’n gyfangwbl gan y wladwriaeth, ers i’n trethi oll fynd i’w ‘hachub’.

Hyd at 2013 roedd £330miliwn o arian cyhoeddus wedi mynd i goffrau Arriva, y cwmni sy’n rhedeg ein trenau. Yn 2014 eu helw oedd £373miliwn. Taflwyd y Swyddfa Bost i ddwylo preifat a thros nos daeth yn amlwg fod yr holl beth wedi ei danbrisio’n sylweddol gan wneud elw gwych i’r rhai oedd wedi ‘mentro’.

Gwelem yr arian hurt mae cwmnïau ynni yn ei wneud ar draul llwyr y cyhoedd, yn dathlu eu helw’n llawen un mis ac yn codi eu prisiau’r mis nesaf. Er enghraifft, broliodd SSE (Swalec) fis Mehefin y byddai eu helw yn codi i amcangyfrif o £1.54biliwn, ddeufis ar ôl codi eu prisiau 8.8%. Mae gan Swalec oddeutu miliwn o gwsmeriaid yn Nghymru. Er, maen nhw wedi addo rhewi eu prisiau erbyn 2016 chwarae teg, fydd yn golygu’r union run faint o elw ag eleni. Mae eraill newydd ddatgan gostyngiad o 5% flwyddyn nesaf mewn ymateb i’r dirmyg, sy’n edrych yn dda tan i ni sylwi fod 77% o godiad wedi bod yn 2013. Ar ben hynny ers 2009 rhoddwyd £4.5biliwn i’r cwmnïau sy’n casglu olew dan y môr fel budd-daliadau i’w helpu i ychwanegu at eu helw anferth.

Arian cyhoeddus i gwmnïau mawr

Mae Disney wedi derbyn £170miliwn o arian cyhoeddus Prydain ers 2007 am ryw reswm. Awn i Gymru, lle mae’r cwmni awyrennau rhyfel a theithio Airbus, a’u helw am naw mis cyntaf 2014 yn £2.59biliwn, wedi derbyn £8.1miliwn gan Carwyn Jones ar gyfer ‘hyfforddiant’ yn yr un flwyddyn. Mae hyn ar ben £28miliwn o anrheg roddodd Rhodri Morgan iddyn nhw gyda’n trethi yn 2009.

Derbyniodd Amazon £8miliwn hefyd yn 2014 gan Carwyn Jones i helpu’r trueniaid i godi warws yn Abertawe, gyda’r Ffordd Amazon newydd ar gyfer eu lorïau yn cael £3miliwn arall. Does dim addewid ganddo am gymorth o’r fath i gystadleuwyr y bwystfil corfforaethol Amercanaidd o fewn ein ffiniau, sef miloedd o fusnesi bach ledled Cymru.

Datganiwyd fod y cwmni americanaidd Pinewood wedi derbyn £30miliwn o freib…sori, buddsoddiad… i sefydlu stiwdio yn Nghaerdydd, yn anwybyddu’n llwyr y ffaith fod Ynys Manaw wedi gwneud yr union yr un fath ac nawr yn berchen ar adeilad mawr gwag hollol ddibwrpas. I geisio arbed y sefyllfa mi brynodd llywodraeth yr ynys 9.9% o siariau yn y stiwdio yn 2012.

Mae cannoedd o filiynau o bunnau wedi ei dynnu oddi ar gyllidebau cynghorau Cymru. Mae Cyngor Wrecsam newydd ddatgan na fedrent fforddio £23,000 i gynnal gwasanaeth meithrin Cymraeg. Mae llyfrgelloedd prysur yn cau. Ac wrth i £20biliwn gael ei dynnu o gyllideb y Gwasanaeth Iechyd daeth i’r fei fod £166miliwn wedi ei dalu fel bonws i reolwyr y gwasanaeth. Yn yr wythnos lle prynodd William a Ffion Hague Neuadd Cyfronydd am bris nad sy’n deilwng o gyflog aelod o’r cabinet…mae ei broffesiwn yn parhau i dyfu’r gagendor rhwng eu teip nhw a’n teip ni.