Huw Prys Jones
Huw Prys Jones yn esbonio pam ei fod wedi anfon cŵyn swyddogol at y BBC ynglŷn â’r rhaglen Escape to the Country ddydd Sul diwethaf…

Cyfres i helpu pobl gymharol gefnog o’r dinasoedd sydd â’u bryd ar symud i gefn gwlad yw Escape to the Country ar y BBC, gyda phob rhaglen yn rhoi sylw i un ardal wledidg benodol.

Ar ôl gweld ambell un o’r rhaglenni o bryd i’w gilydd, ro’n i wedi cymryd yn ganiataol na fyddai’n cynnwys ardaloedd o Gymru neu’r Alban gan y byddai hynny’n rhy ddadleuol iddi.

Cefais fy syfrdanu a’m cythruddo felly, o weld mai testun y rhaglen ddydd Sul diwethaf oedd penrhyn Llŷn a Pharc Cenedlaethol Eryri, fel lle delfrydol i ŵr a gwraig o Gaerlŷr allu ymddeol yn gynnar yma.

Mae’n gwbl annerbyniol bod ardal sy’n ffurfio talp sylweddol o gadarnle cryfaf y Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru yn cael ei hystyried fel deunydd addas ar gyfer rhaglen o’r fath.

I ddechrau, mae’n amlwg fod mewnfudiad pobl o Loegr i’r ardal yn mynd i gael effaith uniongyrchol ar gryfder y Gymraeg yn ei phrif gadarnle. Mae unrhyw un sydd wedi edrych o ddifrif ar ganlyniadau Cyfrifiad 2011 yn gweld pa mor allweddol ydi’r ardal hon i holl ddyfodol y Gymraeg.

‘Gwynnyth’

Roedd defnyddio’r ardal fel testun rhaglen o’r fath yn ddigon drwg ynddo’i hun.  Ond roedd ymdriniaeth y rhaglen o’r ardal yn ei gwneud yn fwy annerbyniol fyth. Nid oedd y rhaglen yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at Gymreictod Gwynedd (neu ‘Gwynnyth’ fel y câi’r sir ei hynganu gan y gyflwynwraig) a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i gynnal y Gymraeg yma.

Mewn geiriau eraill, roedd yn ymdrin â Gwynedd yn union fel petai’n un o siroedd Lloegr. Sy’n codi’r amheuon dyfnaf am ymrwymiad honedig y BBC i’r hyn a elwir yn ‘amrywiaeth’.

O gofio bod mewnfudo wedi bod yn bwnc llosg yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, ers blynyddoedd, roedd yn anghredadwy gweld cyflwynwraig yn annog mewnfudiad yma. Does gen i ddim amheuaeth fod y BBC yn torri ei ddyletswydd i fod yn ddiduedd gydag agwedd o’r fath. Y peth lleiaf y dylai fod wedi’i wneud oedd cyflwyno ochr arall y ddadl. Mae digon o bobl a allai fod wedi cyflwyno safbwyntiau o’r fath yn gwbl ddiflewyn ar dafod.

Nigel Farage

Ac onid oes dyletswydd hefyd ar raglenni fel hyn i geisio rhoi darlun llawn i unrhyw ddieithriaid sydd â’u bryd ar symud yma? Mae Nigel Farage wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar ar ôl iddo ddweud fod llawer yn teimlo’n anghysurus o glywed iaith heblaw Saesneg yn cael ei siarad ar drenau. Gan gymryd ei fod yn siarad ar ran carfan o’i gydwladwyr, onid priodol fyddai sicrhau fod gan unrhyw ddarpar fewnfudwyr wybodaeth lawn am natur ardal fel Gwynedd?

Roedd agwedd y rhaglen yn hynod nawddoglyd hefyd at y bobl sy’n byw yma. Roedd y pwyslais ar mor denau oedd y boblogaeth, a’r awgrym clir o hyn oedd nad oedd fawr neb am darfu ar heddwch newydd-ddyfodiaid. Roedd y ffordd yr oedd y gŵr a’r wraig a oedd yn dweud nad oedd arnynt nhw eisiau ‘dim cymdogion’ hefyd yn swnio’n hynod o sarhaus i’r bobl sy’n ymfalchïo yn ein cymdogaethau ac sy’n gweithio’n galed i’w cynnal.

All neb amau cyfraniad pwysig y BBC yng Nghymru tuag at y Gymraeg, sydd i gynnwys y cyfrifoldeb am S4C. Mae’n holl bwysig nad yw ei benaethiaid yng Nghymru’n caniatáu i’r gwaith hwnnw gael ei danseilio gan anwybodaeth ac agweddau sarhaus rhai o’r rheini sy’n gyfrifol am gynnwys ei raglenni yn Lloegr.

Rhaid i’r cyfryngau yn Llundain ddeall fod mewnfudo’n bwnc llosg yng Nghymru a bod rhaglenni sy’n mynd ati’n agored i’w annog yn gwbl annerbyniol.